sobota, 12 listopada 2011

Beth sy'n cysylltu Sant Marcin a bwyd?



 Ar yr unfed ar ddêg o Dachwedd, mil naw un wyth, enilloedd Gwlad Pwyl ei hannibyniaeth. Ym Mhoznań mae'r achlysur yn cael ei dathlu am reswm arall hefyd. Dydd Gŵyl San Marcin yw hi ar y dyddiad hwn. Mae cacen arbennig yn cael ei bwyta yr adeg hon o'r flwyddyn ym Mhoznań. Rogal yw enw'r gacen. Cacen siâp hanne lleuad yw hi, wedi'i llanw â pabu, ac eisin ar ei ben.



Pryd cafodd y rogale eu pobi gynta erioed? Yn mil wyth naw un mae'n debyg.Yn ôl y chwedl, yn y flwyddyn honno, roedd lot fawr o croissants wedi cael ei neud i fwydo'r tlodion. Daeth "rogal" yn enw cyffredin iddyn nhw tua'r amser yna. Roedd Sant Marcin yn arfer helpu'r tlodion yn yr hen hen amser. Unwaith fe gollodd ei geffyl un o'i bedolau. Mae siâp y gacen, siâp hanner lleuad, yn debyg iwan i siâp y bedol. Mae'r hanes wedi tyfu o dipyn i beth. Cafodd y rogal ei gydnabod gan yr Undeb Ewropeiadd yn gynnyrch lleol 'swyddogol'.

Dyma sut dyn ni'n dathlu un Stryd Sant Marcin...








A dyma'r seren dydd: ROGAL 

lluniau o'rwefan hon
Mae'r testyn yn rhan o'r rhaglen radio "Y GYMRAEG YNG NGWLAD PWYL"
Ysgrifennwyd gan fi. Cywirydd gan Diarmuid Johnson. 

Brak komentarzy:

Prześlij komentarz