piątek, 14 lutego 2014

Cariad yn yr aer.../Love is in the air


y balŵn melyn mowr

petaset ti’falŵn melyn mawr
mi helwn y pinne bach allan o’r wlad
rhag ofn iti ymddangos yn yr awyr fry
wrth fod y pinne bach
yn breuddwydio’n chwyrn
am falŵn melyn mawr

mi helwn y pinne bach allan o’r fro
i fyd pell sydd mawr angen pinne bach
ac mi waharddwn bop melynbeth mawr
er mwyn iti gael bod yn haul
petaset yn digwydd disgleirio fry

ac ni wnawn mo dy glymu
â rhaff nac â chortyn main
ond mi fyddwn yn gofidio fyn enaid
mai cyrchu gwlad y pinne bach
y byddet yn siŵr o’i neud
petaset yn yn falŵn melyn mawr. 

gan Diarmuid Johnson